Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad
y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser
y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (153) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.17
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Y cynnydd a wnaed o ran datblygu Rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd 2014-20
Dechreuodd yr eitem am 14.27
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyllideb Ddrafft 2014-15
Dechreuodd yr eitem am 15.00
5 Dadl ar Dalu Costau Tai yn Uniongyrchol i Denantiaid yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol;
2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai; a
3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 1, dileu popeth ar ôl ‘â’i chynlluniau’ a rhoi yn ei le:
‘i safoni taliadau uniongyrchol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Lafur flaenorol y DU’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:
‘sy’n cynnig y potensial i rymuso pobl drwy roi rhagor o reolaeth iddynt dros eu harian, a chynnig llwybr cliriach i waith ac annibyniaeth.’
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu’r ‘Universal Credit Local Support Services Framework’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac a luniwyd ar y cyd ag asiantaethau, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n rhestru’r cymorth sydd ar gael i hawlwyr y mae angen talu costau tai yn uniongyrchol i landlordiaid.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
33 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus ar holl ganfyddiadau’r Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol a fydd yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
12 |
5 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5315 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Llywodraeth y DU yn parhau â’i chynlluniau i gyflwyno taliadau uniongyrchol;
2. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i newid ei pholisi ar daliadau uniongyrchol er mwyn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn debygol o gael effaith negyddol ar nifer o denantiaid, a hefyd beri risg i hyfywedd ariannol cymdeithasau tai;
3. Yn canmol y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau tai a sefydliadau eraill i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau;
4. Yn credu y gallai taliadau uniongyrchol arwain at fwy o achosion o droi allan, gan arwain at gostau ychwanegol ar gyfer troi allan ac ailgartrefu unigolion, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i roi’r arferion gorau ar waith er mwyn osgoi achosion o droi allan; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau credyd a chymdeithasau tai er mwyn ystyried y ffyrdd gorau o sicrhau bod cynnyrch ariannol gyda nodweddion cyllidebu parod ar gael yn fwy eang, ac i hyrwyddo defnyddio gwasanaethau cyngor ariannol ymysg tenantiaid, er mwyn helpu’r rheini y mae taliadau uniongyrchol yn cael effaith arnynt.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
17 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.37
NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5316 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
Yn nodi pwysigrwydd gwasnaeth eiriolaeth unigol o ran sicrhau bod buddiannau gorau pobl sy'n dibynnu ar wasanaethau cymdeithasol yn cael eu diogelu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
7 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5317 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
5 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 17.53
NDM5318 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 18.36
NDM5319 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.37
Daeth y cyfarfod i ben am 18:41
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 9 Hydref 2013